Skip to content ↓

Ysgol Eglwysig / Church School

Beth yw Ysgol Eglwys VC?

Mae Ysgol Eglwys a Reolir yn Wirfoddol (VC) yn ysgol a ariennir gan y wladwriaeth sydd â chysylltiad arbennig â’r Eglwys yng Nghymru.

Dyma beth mae hynny’n ei olygu i chi a’ch plentyn:

  • Croeso i Bawb: Fel unrhyw ysgol leol arall, rydym yn croesawu plant o bob cefndir a chred.
  • Gwerthoedd Cristnogol: Mae gan ein hysgol seiliau Cristnogol, ac rydym yn mynegi’r gwerthoedd hynny yn ein bywyd bob dydd – drwy garedigrwydd, parch, a chymuned.
  • Cwricwlwm Cenedlaethol: Mae plant yn dilyn yr un cwricwlwm ag ysgolion eraill yng Nghymru, gyda safonau uchel ym mhob pwnc.
  • Addoli ar y Cyd: Rydym yn cynnal gweithgareddau addoli dyddiol gyda naws Gristnogol.
  • Llywodraethu: Mae’r awdurdod lleol yn rhedeg yr ysgol, ond mae’r Eglwys yn helpu i lunio ein hegwyddorion ac yn penodi rhai o’n llywodraethwyr.

Yn gryno, rydym yn ysgol gymunedol gyda chalon Gristnogol gynnes.

Llythyr gan y Gwir Barchedig Andrew John

Gwerthoedd Eglwysig

Yn Ysgol Cae Top, mae gwerthoedd Cristnogol wrth galon popeth a wnawn. Maen nhw’n siapio’r ffordd rydyn ni’n byw ac yn gweithio gyda’n gilydd – yn ein hystafelloedd dosbarth, ar y buarth, ac yn y gymuned ehangach.

Mae tosturi, gonestrwydd a chariad nid yn unig yn egwyddorion rydym yn eu dysgu, ond yn werthoedd rydym yn eu byw. Mae’r plant a’r staff yn dangos parch tuag at ei gilydd, yn gwrando, yn gofalu, ac yn cefnogi’n gilydd – gan greu ysgol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn.

Mae myfyrdod a gweddi yn rhan naturiol o’n diwrnod. Maen nhw’n rhoi cyfle i blant stopio, meddwl, a diolch – am ffrindiau, am eu teuluoedd, ac am y byd o’u cwmpas. Rydyn ni’n defnyddio’r amser hwn i feithrin gonestrwydd, gostyngeiddrwydd a synnwyr o bwrpas.

Tu hwnt i’r gwersi, rydym hefyd yn annog y plant i feddwl am eraill – i helpu, i ofalu, ac i wneud gwahaniaeth. Drwy brosiectau elusennol ac ymgyrchoedd cymunedol, maen nhw’n dysgu bod ganddyn nhw’r gallu i wasanaethu ac i gefnogi’r rhai sydd mewn angen.

Wrth dyfu drwy’r ysgol, ein nod yw meithrin nid yn unig dysgwyr galluog, ond pobl garedig ac ofalgar – pobl fydd yn gwneud lles yn y byd. Mae ein gwerthoedd yn fwy na geiriau ar wal; maen nhw’n fyw yn y ffordd rydyn ni’n trin ein gilydd bob dydd.

 

What is a VC Church School?

Voluntary Controlled (VC) Church School is a state-funded school with a special connection to the Church in Wales.

Here’s what that means for you and your child:

  • Open to Everyone: Just like any other local school, we welcome children of all backgrounds and beliefs.
  • Christian Values: Our school has a Christian foundation, and we reflect those values in our daily life—through kindness, respect, and community spirit.
  • National Curriculum: Children follow the same curriculum as other schools in Wales, with high standards in all subjects.
  • Collective Worship: We hold daily acts of worship with a Christian character.
  • Governance: The local authority runs the school, but the Church helps guide our ethos and appoints some of our governors.

In short, we’re a community school with a warm Christian heart.

A Letter From The Right Reverend Andrew John

Christian Values

At Ysgol Cae Top, Christian values are at the heart of everything we do. They shape how we live, learn, and grow together – in the classroom, on the playground, and as part of the wider community.

Compassion, honesty, and love are not just things we talk about – they’re values we try to live by each day. Children and staff show respect for one another, listen with care, and support each other. We work hard to create a school where everyone feels that they belong.

Prayer and reflection are a natural part of our daily routine. These quiet moments help us pause, give thanks, and think deeply – about our friendships, our families, and the world around us. They help nurture qualities like gratitude, humility, and a sense of purpose.

Beyond the classroom, we encourage our pupils to think about others – to show kindness, to help, and to make a difference. Through charity work and community projects, they learn that they have the power to serve and support those in need.

As our pupils grow, our hope is not only to help them become capable learners, but also kind, caring people – individuals who will make a positive impact on the world around them. Our values are more than words on a wall – they come to life every day in the way we treat one another.